Login | Register
Cymraeg
Croeso i Special

Croeso

Darparwyr sefydlog o ddatrysiadau wefannau i'r cyhoedd yw Special. Y maegennym staff wedi'u lleoli mewn llefydd allweddol yn Nghymru a Lloegr. Ers2002, yr ydym ni wedi bod yn datblygu ystod o sustemau aml-gyfrwng pwrpasol,gan gynnwys:

  • wefannau
  • mewnrwydi
  • allrwydi
  • sustemau cronfa ddata
  • CD-ROMs
  • DVDs

Rydym ni hefyd yn darparu gwasanaethau ymchwil ac ymgynghori.

Mae gennym glientau trwy Gymru a Lloegr, gan gynnwys:

  • cymdeithasau tai
  • prifysgolion
  • undebau llafur
  • labeli recordiau
  • asiantaethau'r llwyodraeth

Amdanom Ni

Wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr fel cwmni rhif 4531714, mae'r cwmni hwn ym mherchnogaeth lawn ei berchennog Matthew Townsend. Sefydlwyd Special Website Development Ltd ym mis Medi 2002.


Matt Photo

Matthew Townsend - Rheolwr Gyfarwyddwr

Sefydlwyd Special gan Matt Townsend yn 2002 fel cwmni datblygu gwefannau. Ar ôl gweithio gyda nifer o gwmnïau, teimlai Matt nad oedd defnydd effeithlon yn cael ei wneud yn ddigon aml o dechnoleg gwybodaeth ac nad oedd ychwaith yn cael ei ddefnyddio i'w lawn potensial ac mai dyma, gan fod ymchwydd y cwmnïau dotcom wedi chwythu'i blwc, oedd yr amser iawn i ddechrau datblygu systemau ar-lein go iawn y byddai pobl go iawn yn eu defnyddio.

Datganiad Cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw darparu gwasanaethau datblygu gwefannau ac ymgynghori TG o safon uchel, mewn modd effeithlon ac am bris teg. Trwy ddatblygu arferion busnes da byddwn yn symud ymlaen i feysydd busnes eraill tra'n cynnal ein hegwyddorion moesegol a chyda'r nod o ddarparu swyddi cynaliadwy a boddhaus.

Cyfreithiol

Mae Special Website Development Ltd 2007 yn berchen ar hawlfraint pob rhan o'r wefan hon. Mae unrhyw adrannau cyfyngedig o'r safle wedi eu bwriadu at ddefnydd defnyddwyr awdurdodedig yn unig. Gellir cymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy'n defnyddio'r safle hwn heb ganiatâd.

Datblygu Amlgyfrwng

Gall Special ddatblygu amrywiaeth eang o systemau amlgyfrwng i gwrdd â'ch union ofynion.

Gwefannau, Mewnrwyd ac Allrwyd

Gall Special ymgymryd â phob cam o'r gwaith o ddatblygu eich gwefan, gan gynnwys dadansoddiad o anghenion y defnyddiwr, y dylunio, y datblygu, paratoi'r cynnwys, profi a gwe-letya. Mae ein profiad o ddelio â phrosiectau bach a mawr yn golygu ein bod wedi perffeithio ein harferion rheoli prosiectau. Mae ein gwefannau'n defnyddio Systemau Rheoli Cynnwys (CMS), ac maent yn cwrdd â meini prawf hygyrchedd ac maent wedi eu tagio i wneud y defnydd gorau o chwilotwyr. Yr ydym yn cydweithio'n agos â'n cleientiaid i sicrhau ein bod yn creu'r union wefan sydd ei hangen arnynt.

Mae mewnrwyd yn wefan gaeedig, at ddefnydd eich staff yn unig. Yr ydym wedi datblygu Mewnrwyd ar gyfer sefydliadau mawr a gallwn eich cynorthwyo gyda phob cam o gynllunio, datblygu, neu hyd yn oed ailddatblygu Mewnrwyd sy'n cael ei defnyddio eisoes.

Mae allrwyd yn wefan gaeedig, fel arfer ar gyfer cyflenwyr neu ymgynghorwyr a fydd yn derbyn cyfrinair i gael mynediad iddi. Yr ydym wedi datblygu nifer o allrwydi. Gallwn hefyd weithio gyda chi i sicrhau bod gwybodaeth gyson ar gael trwy eich Mewnrwyd, Allrwyd a'r gwefannau.

Systemau Cronfa Ddata

Mae systemau cronfa ddata'n hanfodol i gadw a rheoli gwybodaeth o fewn eich sefydliad. Byddant hefyd yn sicrhau gwybodaeth gywir i'ch Mewnrwyd, gwefan ac Allrwyd. Mae gennym brofiad o ddatblygu amrywiaeth o systemau cronfa ddata sy'n cwrdd ag union ofynion ein clientau ac rydym hefyd yn arbenigo mewn dylunio rhyngwyneb ar gyfer y we.

Yr ydym hefyd yn datblygu'r atebion pwrpasol canlynol sy'n benodol i sectorau arbennig:

BinDays ar gyfer Awdurdodau Lleol

Disgiau CD-ROM a DVD

Bydd disgiau CD-ROM yn galluogi'ch busnes i ddosbarthu llawer iawn o gynnwys amlgyfrwng, gan gynnwys ffeiliau, fideos, sain a chyflwyniadau. Yn Special yr ydym yn cynhyrchu disgiau CD-ROM i'w dosbarthu i bob cwr o'r wlad, i'w rhannu mewn digwyddiadau a hyd yn oed i chi eu gwerthu i'ch cleientiaid - boed hynny i rannu gwybodaeth neu farchnata. Bydd disgiau DVD yn eich galluogi i ddosbarthu mwy o wybodaeth nag a geir ar ddisgiau CD-ROM hyd yn oed, ond gallwn hefyd ddatblygu disgiau DVD i'w defnyddio ar gyfrifiaduron neu ar setiau teledu yn y cartref.

Gwasanaethau Ymchwil

Rheoli prosiectau

Yr ydym yn rheoli prosiectau ymchwil. Yr ydym yn gweithio gydag amryw o ymchwilwyr sydd â phrofiad helaeth mewn sawl sector.

Cefnogaeth cefn swyddfa

Mae gennym swyddfeydd yn Croydon, lle gallwn gynorthwyo gyda phopeth o ddosbarthu holiaduron i baratoi dadansoddiad ystadegol o ganlyniadau ymchwil. Gallwn hefyd weithio â chwmnïau sy'n darparu gwasanaethau cyfieithu a gallwn hyd yn oed eich helpu i gynllunio cyhoeddiadau am eich ymchwil a'ch digwyddiadau.

Cefnogaeth i wefannau

Gall gwefan fod yn ffordd dda o hysbysu pobl am gynnydd eich ymchwil. Gall hefyd fod yn ffordd dda o alluogi pobl i gyfranogi trwy gyfrwng holiaduron ar-lein a fforymau trafod.

Gall Special gynnig yr ateb cyflawn i'ch holl ofynion ymchwil, gan gynnwys y gwasanaethau canlynol:

Gwaith Ymchwil Cyfredol

Ymgynghoriad ar gymwysterau sgiliau newydd i Gymru - www.kscrymru.org

UK Cynghrair Answyddogol Gwerthwyr Band Eang y DU

Ymchwil a Gwblhawyd

Ymgynghoriadau ar y Safonau Sgiliau Gweithredu drafft yng Nghymru


Gan weithio gyda'r arbenigwyr o'r byd addysg Peter Munday a Pat McNeil cwblhawyd ymgynghoriad ar-lein ar gyflwyno Sgiliau Gweithredu yng Nghymru, a oedd yn cael ei gynnal ochr yn ochr â chynhadledd a sesiynau grŵp ffocws yn Llandrindod i gynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Sgiliau gweithredu yw elfennau craidd Saesneg, Mathemateg a TGCh sy'n rhoi i unigolion yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth hanfodol a fydd yn eu galluogi i weithredu mewn ffordd hyderus, effeithiol ac annibynnol yn eu bywydau ac yn eu gwaith.

Bwletin Band Eang

Mae cylchlythyr misol wedi'i anelu at benderfynwyr yng Nghymru, yn cael ei gynhyrchu gan Special ar ran Arsyllfa Band Eang Cymru.

www.bbwo.org.uk/broadband-2172

Profion Sgiliau Allweddol yn dod i ben yng Nghymru

Gan weithio gyda'r arbenigwyr o'r byd addysg Peter Munday a Pat McNeil cwblhawyd prosiect ymchwil ar derfynu profion Sgiliau Allweddol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.

http://accac.org.uk/uploads/documents/2390.doc

 
Copyright 2008 by Special